Mae un o weinidogion llywodraeth Brasil yn galw am ragor o gefnogaeth er mwyn ceisio gwarchod yr Amazon.
Mae angen cymorth gwledydd cyfoethog, yn ôl Ricardo Salles, Gweinidog yr Amgylchedd y wlad, fu’n siarad mewn uwchgynhadledd ar newid hinsawdd.
“Rydyn ni’n fodlon gwneud beth bynnag sydd angen ei wneud, ond mae angen y gefnogaeth honno,” meddai.
“Cafodd y gefnogaeth honno ei haddo flynyddoedd yn ôl ac rydyn ni’n dal i ddisgwyl i’r gwledydd cyfoethog gymryd rhan mewn modd priodol.
“Arian priodol fydd ei angen arnon ni ar gyfer y dasg honno.”
Hybu polisïau dadleuol
Yn ystod yr uwchgynhadledd, mae Ricardo Salles yn tynnu sylw at bolisïau amgylcheddol dadleuol yr arlywydd Jair Bolsonaro.
Fe fu ffrae rhwng yr arlywydd ac arweinwyr nifer o wledydd Ewropeaidd eleni ynghylch ei ymrwymiad i warchod yr Amazon.
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn beirniadu agwedd yr arlywydd atyn nhw a rheoleiddwyr amgylcheddol ar ôl iddo alw am fwy o ddatblygiadau yn y rhanbarth.
Mae hefyd yn cyhuddo ymgyrchwyr o gynnau tanau er mwyn ceisio tanseilio’i lywodraeth.
Mae datgoedwigo wedi cyrraedd ei lefel uchaf yn y wlad ers 11 o flynyddoedd, wrth i filoedd o erwau gael eu colli.