Mae Rwsia wedi cefnu ar brosiect ymchwil ag Iran gan fod y wlad wedi ail-ddechrau trin wraniwm.
Ar ôl taro dêl a sawl gwlad arall mi wnaeth Iran rhoi’r gorau i drin yr elfen yn 2015.
Ond mi gefnodd yr Unol Daleithiau ar y cytundeb yma’r llynedd, a bellach mae Iran wedi ailddechrau trin wraniwm. Mae’r Unol Daleithiau hefyd wedi ailosod sancsiynau ar y wlad.
Roedd Rwsia ac Iran wedi bwriadu cydweithio i gynhyrchu deunydd ymbelydrol er dibenion meddygol.
Ond bellach mae cwmni niwclear gwladol o Rwsia wedi dweud bod yn rhaid cefnu ar y cynllun gan fod Iran wedi difetha safle â’i gwaith niwclear.
Byddai’r safle wedi cael ei ddefnyddio am y gwaith ymchwil.