Mae un o siambrau cyngres yr Unol Daleithiau yn mynd i fwrw ati i geisio uchelgyhuddo ei Harlywydd.
Mae Tŷ’r Cynrychiolwyr yn bwriadu cyhuddo Donald Trump o gamddefnyddio ei bŵer, ac mi allai pleidlais gael ei chynnal ar y mater erbyn Nadolig.
Y Democratiaid sydd â mwyafrif yn y siambr, ac mae hynny’n golygu bod yr uchelgyhuddiad yn debygol o gael ei basio.
Er hynny, y Gweriniaethwyr sydd yn rheoli’r ail siambr, y Senedd, ac mi allan nhw rwystro’r ymdrech.
Wrth wraidd yr alwad mae honiadau bod Donald Trump wedi annog yr Wcráin i ymchwilio i Ddemocratiaid – gan atal taliadau cymorth i’r wlad ar yr un pryd.
“Llygru’r etholiad”
“Mae’r Arlywydd wedi ein gadael ni heb unrhyw ddewis ond gweithredu,” meddai Llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, Nancy Pelosi.
“Unwaith eto, mae’n ceisio llygru’r etholiad [Arlywyddol yn 2020] er budd ei hun.”