Mae arweinydd y Democratiaid Ryddfrydol Jo Swinson wedi rhybuddio y bydd yr SNP yn cyhoeddi ail refferendwm annibyiaeth “o fewn dyddiau” os y byddan nhw’n ennill seddi sy’n cael eu brwydro gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd Jo Swinson yn siarad mewn rali yng Nghaeredin wythnos cyn diwrnod yr etholiad.

Bydd aelodau eraill o’r blaid megis, Willie Rennie, Alex Cole-Hamilton, Christine Jardine a Beatrice Wishart yn siarad yn y rali hefyd.

Mae disgwyl y bydd Jo Swinson yn dweud wrth y gynulleidfa y dylai Nicola Sturgeon “dreulio ychydig yn llai yn siarad am annibyniaeth a mwy o amser yn ceisio gwella ein ysbytai ac ein gwasanaeth iechyd meddwl”. in