Mae tri Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Brexit wedi cefnu ar y blaid er mwyn cefnogi dêl Boris Johnson a’r Ceidwadwyr.

Mae Annunziata Rees-Mogg – chwaer Jacob Rees-Mogg, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin – Lance Forman a Lucy Harris oll wedi cefnu ar y chwip er mwyn cefnogi cynllun y Prif Weinidog. 

Daw hyn wedi i’r Aelod Seneddol Ewropeaidd, John Longworth, golli’r chwip ar ôl cael ei gyhuddo o danseilio strategaeth y blaid yn yr etholiad cyffredinol.  

“Er mwyn cyflawni’r Brexit mae 17.4 miliwn wedi pleidleisio amdano, mae angen llywodraeth arnom sydd yn cefnogi gadael ac sy’n gryf,” meddai. 

“Y Ceidwadwyr yw’r unig opsiwn i bobol sydd yn cefnogi Brexit ac i ddemocratiaid.”

“Siomedig”

Mae Nigel Farage, arweinydd Plaid Brexit, wedi dweud ei fod yn “siomedig” â’r penderfyniad, ac wedi dadlau bod ei blaid yn cryfhau gobeithion y Ceidwadwyr trwy sefyll yn yr etholiad.

Fydd e ddim yn sefyll yn yr etholiad yma.