Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres wedi dweud fod ymdrechion y byd i atal newid hinsawdd wedi bod yn “gwbwl annigonol” a bod perygl bod y cyfle i atal cynhesu byd eang wedi mynd.

Roedd Antonio Guterres yn siarad ddydd Sul (Rhagfyr 1) cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP25) ym Madrid.

Rhybuddiodd Antonio Guterres bod effeithiau’r tymheredd yn codi – gan gynnwys tywydd eithafol –  eisoes yn digwydd o amgylch y byd.

Dywed fod gan y byd y wybodaeth a’r gallu technolegol i gyfyngu cynhesu byd eang ond fod “ewyllys gwleidyddol yn brin”.

Bydd cynrychiolwyr o 200 gwlad yn ceisio manylu ar y rheolau yng nghytundeb Paris 2015.

Mae trefnwyr yn disgwyl oddeutu 29,000 o ymwelwyr, gan gynnwys 50 pennaeth llywodraethol ar gyfer yr agoriad heddiw (Rhagfyr 2), yn ogystal â gwyddonwyr ac ymgyrchwyr yn ystod y pythefnos nesaf.

Ac mae Antonio Guterres yn mynnu fod ei neges yn “un o obaith, nid anobaith. Mae’n rhaid i’n rhyfel yn erbyn natur ddod i ben ac rydym yn gwybod fod hynny yn bosib”.