Mae deg o bobol wedi cael eu saethu yn ardal Ffrengig dinas New Orleans.

Mae dau o bobol mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 1).

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, meddai’r heddlu, sy’n dweud bod un person yn cael ei holi.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar stryd brysur ger nifer o westai.

Mae mwy o heddlu yn yr ardal nag arfer o ganlyniad i gêm bêl-droed fawr rhwng Grambling State a Southern University, sy’n cael ei chynnal ar achlysur Diolchgarwch.