Mae protestwyr hen ac ifanc wedi ymgynnull yn Hong Kong unwaith eto heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 30), gan fynnu nad ydyn nhw am ddod â’u protest i ben eto.
Maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i’r protestiadau sydd ar y gweill ers rhai misoedd, hyd nes bod mwy o ddemocratiaeth yn y wlad.
Bydd protestwyr ar draws y wlad yn cynnal cyfres o brotestiadau dros yr wythnos nesaf er mwyn parhau i bwyso ar y llywodraeth.
Bloc o blaid democratiaeth enillodd etholiadau lleol y wlad yr wythnos ddiwethaf.
Gwraidd y brotest oedd dicter fod trigolion Hong Kong wedi colli’r hawliau a gafodd eu rhoi iddyn nhw fel rhan o’r cytundeb annibyniaeth rhwng Hong Kong a’r Deyrnas Unedig yn 1997.