Adam Price enillodd y ddadl deledu ymhlith arweinwyr gwleidyddol gwledydd Prydain, yn ôl Jonathan Edwards, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru.
Dywed fod arweinydd y blaid “ben ac ysgwyddau” uwchlaw’r arweinwyr eraill yng Nghymru yn ystod y ddadl, a’i fod yn disgwyl iddo ddod yn Brif Weinidog Cymru adeg etholiadau’r Cynulliad yn 2021.
Fe wnaeth e ganmol Adam Price am herio Llafur a’r Ceidwadwyr ar wasanaethau cyhoeddus Cymru – her sydd wedi arwain at Lafur yn galw am ymchwiliad cyhoeddus a chyfreithiol i fethiannau Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
Yn ystod y ddadl, fe addawodd e y byddai Plaid Cymru’n dileu tlodi ac yn codi Cymru oddi ar waelod tablau economaidd gwledydd Prydain.
“Gallwn ni adeiladu dyfodol sy’n well na’r gorffennol, ond dim ond os cefnogwn ni ein hunain y gallwn ni wneud hynny, os pleidleisiwn ni dros ein plaid ein hunain,” meddai Adam Price o’r llwyfan.
Yn ôl Jonathan Edwards, arweinydd ei blaid oedd yr unig un i gyfeirio’n benodol at Gymru.
Fe wnaeth e rannu llwyfan yn y Senedd yng Nghaerdydd gyda Nicola Sturgeon (SNP), Caroline Lucas (Y Blaid Werdd), Rebecca Long-Bailey (Llafur), Richard Tice (Plaid Brexit), Rishi Sunak (Ceidwadwyr) a Jo Swinson (Democratiaid Rhyddfrydol).
‘Adam Price ar ei ben ei hun wrth roi Cymru ar agenda San Steffan’
“Yr hyn mae’r perfformiad heno’n ei ddangos yw fod Adam Price ben ac ysgwyddau uwchlaw unrhyw wleidydd arall yng Nghymru, a’i fod e ar ei ffordd i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru,” meddai Jonathan Edwards o’r ystafell sbin neithiwr (nos Wener, Tachwedd 29).
“Ar ei ben ei hun heno, fe wnaeth Adam Price roi Cymru ar agenda San Steffan.
“Nid yn unig roedd e’n cynnig syniadau polisi positif ar gyfer yr heriau mae ein gwlad yn eu hwynebu, ond wnaeth e ddim camu i ffwrdd o herio Llafur a’r Torïaid ynghylch eu methiant a’u cam-reolaeth o wasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru.”