Mae’r Senedd Ewrop wedi cyhoeddi “argyfwng hinsawdd” mewn ymdrech symbolaidd i wthio’r mater mor uchel ag sy’n bosib ar agenda’r Undeb Ewropeaidd.

Pleidleisiodd y Senedd 429 i 225, gyda 19 yn ymatal, i alw’r sefyllfa amgylcheddol yn argyfwng.

Dywed aelod o’r blaid Renew Europe, Pascal Canfin fod y penderfyniad yn gwneud Ewrop “y cyfandir cyntaf i gyhoeddi argyfwng amgylchedd a hinsawdd.”

Honnai Pascal Canfin fod Senedd Ewrop yn cyrraedd disgwyliadau dinasyddion Ewropeaidd.