Mae dyn 20 oed wedi cacel ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad yn Trelai, Caerdydd.

Mae Keaton Collard wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd wedi’i gyhuddo o nifer o droseddau gyrru mewn perthynas â’r digwyddiad yn Ffordd Pethybridge ddydd Mercher diwethaf (Tachwedd 20)

Fe gafodd merch ifanc ei hanafu yn dilyn gwrthdrawiad gyda beic modur tua 4.20yp.

Mae Keaton Collard wedi pledio’n euog i honiadau yn ymwneud ag achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus, ac o fethu â stopi yn dilyn damwain ffordd.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, yn barod i gael ei ddedfrydu gan Lys y Goron Caerdydd ar Ragfyr 10.