Fe ddaeth tuag 20 o bobol i gyfarfod i drafod dyfodol papur bro Eco’r Wyddfa neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 27).

Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal er mwyn ceisio dod o hyd i bobol ieuengach i gario ymlaen a’r gwaith o gynnal y fenter sy’n mynd ers 40 mlynedd ac yn gwasanaethu un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru.

A’r penderfyniad neithiwr oedd i gynnal cyfarfod arall ym mis Ionawr 2020 – pryd y bydd penderfyniad i barhau â’r papur yn cael ei wneud.

“Mi wnaethon ni benderfynu y bydda nhw’n cyflwyno’r sefyllfa ariannol a pheidio dal dim yn ôl,” meddai Richard Lloyd Jones, gohebydd pentref Bethel ac awdur y golofn chwaraeon yn Eco’r Wyddfa.

“Rydan ni i gyd yn credu fod yna’n dal le i bapur bro… ond mae yna rai ohonan ni sydd wedi rhoi deugain mlynedd i Eco’r Wyddfa ac roedd hi’n gadarnhaol fod nifer o bobol yn eu 30au a 40au yn y cyfarfod wedi rhoi eu henwau ymlaen a chynnig syniadau.”

Cyfarfod arall ym mis Ionawr

Bydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal ym mis Ionawr lle bydd yn rhaid dod i benderfyniad ar ddyfodol y papur.

“Dw i ddim y gwybod yn sicr beth fydd dyfodol Eco’r Wyddfa, ond mae pethau’n edrych yn well ar ôl y cyfarfod,” meddai Richard Lloyd Jones.