Mae dau filwr wedi’u lladd mewn ymosodiad ar un o safleoedd milwrol Twrci ger y ffin â Syria.

Mae awdurdodau Twrci yn cadarnhau iddyn nhw ymateb trwy danio taflegrau dros y ffin i ardal gogledd-ddwyrain Syria ger Akcakale.

Er hynny, mae grwp sy’n cadw llygad ar yr ymladd, yn honni mai Twrci daniodd gynaf.

Mae cadoediad bregus iawn, wedi’i drefnu rhwng Twrcia a Rwsia, wedi bod yn atal yr ymladd yn ddiweddar.

Mae’r ardaloedd i’r gorllewin o Tal Abyad yn dal i fod dan reolaeth lluoedd Cwrdaidd.