Mae dau ffrwydrad yng ngogledd Affganistan wedi lladd beth bynnag 16 o bobol – a phob un o’r rheiny’n wragedd a merched ifanc.

Fe darodd un gerbyd yn cario pobol gyffredin yn Kunduz, gan ladd 15 – chwech o ferched a dau o blant, yn ogystal a’r gyrrwr.

Ychydig oriau’n ddiweddarach, fe laddodd ffrwydrad arall o leia’ un plismon yn nhalaith ogleddol Sari Pul.

Mae’r llywodraeth yn rhoi’r bai ar y Taliban am yr ymosodiadau. Ond does neb, hyd yma, wedi hawlio cyfrifoldeb am y naill na’r llall.