Bydd y tŷ lle cafodd Adolf Hitler ei eni yn 1889 yn cael ei droi’n orsaf heddlu, yn ôl yr awdurdodau yn Awstria.
Mae’r penderfyniad hwn yn cau pen y mwdwl ar flynyddoedd o ansicrwydd ynghylch dyfodol yr adeilad, a ddaeth yn fan pererindota i bobol sy’n mawrygu’r unben Natsïaidd.
Dywedodd y Gweinidog Cartref, Wolfgang Peschorn, “y dylai defnydd y tŷ gan yr heddlu anfon neges ddigamsyniol y bydd y cysylltiad rhwng yr adeilad hwn â Natsïaeth yn cael ei dorri am byth”.
Fe wnaeth yr Almaen Natsïaidd feddiannu Awstria yn 1938, cyn cychwyn ar ymgyrch orchfygu filwrol a difa hiliol ar draws Ewrop, gan ladd degau o filiynau o bobl.
Bydd y tŷ yn Braunau am Inn, nid nepell o’r ffin â’r Almaen, yn cael ei ailddylunio wedi cystadleuaeth bensaernïol ryngwladol.
Cafodd ei feddiannu yn ystod cyfnod y perchnogion blaenorol yn byw yno yn 2017.