Mae o leiaf 12 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fom car gael ei ffrwydro mewn tref yn Syria sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr sy’n cefnogi lluoedd Twrci.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y bobol eu lladd fore heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 16) yn nhref al-Bab.
Mae’r ffigwr sydd wedi’i ddyfynnnu’n amrywio rhwng 12 a 14, sy’n beth cyffredin yn dilyn ymosodiadau o’r fath.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn am yr ymosodiad.
Ond maen nhw’n dod yn fwy cyffredin ers rhai misoedd, wrth i Dwrci barhau i ymosod ar drefi a phentrefi sydd dan reolaeth lluoedd Cwrdaidd Syria.