Mae awyrlu Iran wedi saethu drôn o’r awyr yn ne orllewin y wlad, yn ôl asiantaeth newyddion cenedlaethol.
Cafodd y drôn ei danio yn ninas Mahshahr, sydd yn nhalaith Khuzestan, ac sydd yn agos i Geufor Persia.
Nid yw’n glir os oedd y teclyn yn cael ei ddefnyddio er dibenion milwrol ai peidio.
Mae Llywodraethwr y rhanbarth yn honni mai gwlad “estron” oedd yn berchen ar y drôn, ai fod wedi croesi’r ffin i Iran heb ganiatâd.
Mae’r Unol Daleithiau wedi mynnu nad nhw oedd biau’r ddyfais.
Ym mis Mehefin cafodd un o drôns y wlad honno ei saethu o’r awyr gan Iran ger Culfor Hormuz, ac mae tensiynau’n parhau rhwng y ddwy.