Mae tair siop gigydd o Gymru wedi mynd ben ben â’i gilydd am deitl Siop Gîg Orau Cymru.

Cafodd seremoni wobrwyo ei chynnal gan y Cyhoeddwyr Busnes William Reed yn yr Hilton Bankside yn Llundain.

Y tair siop yn y ras oedd Dewi James a’i Gwmni o Ddyffryn Teifi, Douglas Willis o Gwmbrân a Wavells Butchers o Lanrug.

A’r siop gipiodd y teitl Siop Gigydd Orau Cymru oedd Douglas Willis o Gwmbrân.

“Rydym yn falch iawn o ennill Siop Gigydd Orau yng Nghymru, ac yn falch o allu darparu’r cig yn Ffair Aeaf Brenhinol Cymru yn ddiweddarach yn y mis,” meddai Peter Willis o Douglas Willis.

“Llongyfarchiadau i’r cigyddion eraill o Gymru yn y rownd derfynol.”