Mae ymosodwr wedi trywanu nifer o dwristiaid a’u harweinydd mewn safle archeolegol poblogaidd yng ngwlad yr Iorddonen.
Mae’r bobol sydd wedi’u hanafu wedi cael eu cludo i ysbyty, ac mae’r ymosodwr wedi cael ei arestio ar ôl y digwyddiad yn ninas hynafol Jerash.
Mae’r awdurdodau hefyd yn dweud i’r ymosodwr drywanu plismones hefyd, wedi iddi hi geisio ei atal rhag anafu pobol eraill.
Mae papur newydd al-Ghad yn adrodd mai ymwelwyr o Fecsico gafodd eu targedu.