Mae dynion arfog wedi saethu at swyddogion diogelwch yng Ngwlad Thai, gan ladd 15 o swyddogion gwirfoddol ac anafu pump arall.
Mae llefarydd ar ran y fyddin yn dweud fod rhai o’r ymosodwyr hefyd wedi cacel eu hanafu yn y digwyddiad yn hwyr neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 5).
Roedd pedwar o’r swyddgion a gafodd eu lladd, yn ferched, ac roedd un ohonyn nhw’n feddyg.
Yn ôl yr heddlu, roedd hoelion wedi’u gwasgaru ar y briffordd er mwyn rhwystro cerbydau rhag dod i mewn i Yala.
Fe ddaeth yr awdurdodau o hyd i ddyfais ffrwydrol wrth bolyn trydan, er mwyn torri’r cyflenwad. Fe gafodd teiars eu rhoi ar dân mewn ysgol gerllaw hefyd.