Mae tri ymladdwr tán wedi’u lladd mewn ffrwydrad yn rhanbarth Piedmont yng ngogledd orllewin yr Eidal.
Yn ôl asiantaeth newyddion Sky TG24, roedden nhw’n ymateb i alwad i ffrwydrad hen adeilad fferm yn Alessandria pan ddaeth ail ffrwydrad yn gynnar fore Mawrth (Tachwedd 5).
Mae ymchwiliad yn ceisio penderfynu p’un ai oedd y ffrwydrad wedi’i achosi yn fwriadol ai peidio.
Fe gafoff corff un o’r ymladdwyr ei gladdu dan rwbel yr adeilad, ac fe gymrodd otiau o gloddio i ddod o hyd iddo.