Mae heddlu Croatia wedi arestio tri o bobol o wledydd Prydain ar amheuaeth o smyglo pobol, ac mae un yn cael ei amau o geisio gyrru tros heddwas.
Mewn datganiad, mae’r awdurdodau yn dweud iddyn nhw fynd at ddyn 31 oed a oedd wedi parcio ei gar ger y ffin â Slofenia, pan yrrodd yn sydyn tuag at y swyddog a lwyddodd i neidio o’r ffordd.
Mae’r heddlu’n dweud fod y dyn yn gysylltiedig â dai ddinesydd Prydeinig arall sy’n cael eu hamau o geisio croesi’r ffin rhwng y ddwy wlad nos Sadwrn (Tachwedd 2) yn cario nifer o bobol o dramor yn eu fan.