Mae o leiaf 54 o bobol wedi’u lladd yn dilyn ymosodiad brawychol gan jihadwyr ym Mali.

Bu farw 15 o bobol ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 1), ac mae nifer y meirw’n parhau i godi yn rhanbarth Menaka.

Mae disgwyl rhagor o wrthdaro yn y brifddinas Bamako, lle bu protestiadau mawr gan deuluoedd milwrol.

Dydy milwyr ddim yn cael eu gwarchod yn ddigonol, meddai’r teuluoedd wrth ymateb i nifer cynyddol o ymosodiadau.