Mae nifer y bobol sydd wedi marw yn ystod protestiadau yn erbyn llywodraeth Irac bellch wedi codi i 42.
Bu farw 12 mewn tân wrth iddyn nhw fynd i mewn i swyddfeydd y llywodraeth ddoe (dydd Gwener, Hydref 25), drannoeth rali fawr.
Dechreuodd y protestiadau unwaith eto ar ôl i’r awdurdodau eu tawelu ddechrau’r mis.
Mae cyrff yn cael eu symud o ganol tref Diwaniyah ar hyn o bryd.
Mae protestwyr wedi ymgynnull yn Baghdad, ond mae adroddiadau nad yw’r brotest yn un dreisgar hyd yn hyn.