Mae tanau gwyllt yng Nghaliffornia wedi gorfodi degau ar filoedd o bobol i adael eu cartrefi ddydd Iau (Hydref 24) wrth i dywydd poeth a gwyntoedd sych waethygu’r sefyllfa.
Fe ddechreuodd y tanau ger Los Angeles ac ardaloedd cynhyrchu gwin yng Ngogledd Califfornia.
Mae cyflenwadau trydan wedi cael eu diffodd er mwyn atal coed rhag cwympo ar wifrau a chynnau rhagor o danau.
Mae’r cwmni ynni mwyaf yn y dalaith yn dweud y bydd rhagor o gyflenwadau yn cael eu diffodd dros y penwythnos ac mae disgwyl i’r rhan fwyaf o ardal Bae San Fransisco fod heb drydan.
Dywed swyddogion nad yw’n glir faint o gartrefi sydd wedi cael eu difrodi yn y dalaith ac nid oes unrhyw adroddiadau am anafiadau ar hyn o bryd.
Yn ne Califfornia, i’r gogledd o Los Angeles, bu’n rhaid i 40,000 o bobol ffoi o’u cartrefi wrth i danau gwyllt symud tua’r ardal.
Roedd tanau gwyllt yng ngogledd Califfornia ddwy flynedd yn ôl wedi lladd 44 o bobol.