Mae elusen y Groes Goch wedi rhybuddio y bydd “argyfwng dyngarol” mewn gwersyll ffoaduriaid ar y ffin rhwng Bosnia a Croatia
Mae wedi gofyn am symud y sawl sydd yn y gwersyll i safle saffach ar unwaith.
Yn ôl y Groes Goch does gan y gwersyll ddim dŵr rhedeg, dim trydan, dim toiledau yn ogystal â phebyll gorlawn sy’n gollwng dŵr.
Mae 700 o bobol yn byw yn y gwersyll ar hyn o bryd ond dim ond 80 pabell a pum gwirfoddolwr sydd yno.