Mae teulu’r diweddar Brooke Morris, a gafodd ei darganfod yn farw ar ôl bod ar goll am sawl diwrnod, wedi diolch i bawb a fu’n chwilio am y “ferch anhygoel”.

Cafodd corff y ferch, 22, o Drelewis ei ddarganfod yn afon Taf ger Abercynon yr wythnos ddiwethaf (dydd Mercher, Hydref 16).

Doedd neb wedi ei gweld hi oddi ar y nos Sadwrn cynt (Hydref 12) ar ôl noson mas yn nhref Merthyr Tudful.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maen nhw’n dal i ymchwilio i achos ei marwolaeth sydd ar hyn o bryd yn anesboniadwy.

Mewn teyrnged, dywed teulu Brooke Morris fod cefnogaeth y gymuned leol wedi eu helpu i “fagu cryfder yn ystod cyfnod hynod o anodd”.

“Mae hi wedi gadael gwaddol arbennig”

“Er nad yw Brooke gyda ni mwyach, mae hi wedi gadael gwaddol arbennig,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Fe lwyddodd Brooke i ddod â chymaint o bobol yn yr ardal leol ynghyd, ac mae’r ysbryd cymunedol yr ydym ni wedi ei weld yn ddiweddar wedi cyffwrdd â ni’n fawr.

“Diolch i bawb o waelod calon a fu’n helpu i chwilio am Brooke. Allwn ni ddim peidio â chyfeirio at gefnogaeth Clwb Rygbi Nelson, y Nelson Belles, Clwb Rygbi Treharris a Thîm Achub Mynydd y Bannau.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i fusnesau lleol sydd wedi rhoi rhoddion hael a hoffwn hefyd ddiolch i elusen 2 Wish Upon a Star am eu cefnogaeth.

“Fydd bywyd heb Brooke ddim yr un fath, ond mae’r atgofion hapus sydd gennym ni ohoni yn rhyw fath o gysur yn ystod y cyfnod poenus hwn.