Mae perchennog caffi Cymraeg yn ninas Manceinion wedi sôn am yr “hiraeth am yr iaith” sydd wedi’i ysgogi i sefydlu’r busnes.
Symudodd Iwan Roberts o Ddolgellau i Fanceinion er mwyn astudio, ac ar ôl sefydlu popty o’r enw ‘Blawd’, aeth ati i sefydlu caffi Siop Shop’ yn Hydref 2017.
Mae’n rhedeg y cwmni gyda’i gariad, Lucy Jackson, dynes o Winchester sydd wedi dysgu ychydig o Gymraeg, ac mae’r caffi wedi dod yn adnabyddus am ei ddefnydd o’r heniaith.
Mae ganddyn nhw arwyddion a ‘chardiau ffyddlondeb’ dwyieithog, maen nhw’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg, ac yn ôl Iwan Roberts hiraeth sy’n gyfrifol am y cwbwl lot.
“Hiraeth am yr iaith sydd genna’ i ynde,” meddai wrth golwg360. “Yn hytrach na ffonio Mam bob nos, dw i wedi agor siop Gymraeg ym Manceinion.
“Mae yna lot yn Gymraeg yma. Rydyn mi’ yn trio defnyddio’r iaith mor aml ag sy’n bosib.”
Codi ymwybyddiaeth
Mae’n dweud bod “lot o Gymraeg” yn y ddinas, a bod llawer o’r gymuned Gymraeg yn mynd yno – yn enwedig ar y penwythnos.
Mae’n gobeithio rhoi cartref i gymuned Cymraeg Manceinion ac yn awgrymu ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan ei brofiadau yntau o fethu â ffeindio cyd-Gymry yn y ddinas.
Nid Cymry yn unig yw cwsmeriaid y caffi, ac mae Iwan Roberts yn gobeithio medru codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg ymhlith pobol Manceinion.
“Rydym yn trio awgrymu i bobol bod iaith y drws nesaf i ni – dyna dw i’n trio ei wneud,” meddai.
“Enwog am y toes”
Cynnyrch Siop Shop sydd yn denu cwsmeriaid yn fwy na’r Gymraeg, yn ôl y perchennog, ac mae’n mynnu eu bod yn bennaf enwog “am y toes” .
“Dyna pam rydym ni’n cael getaway yn defnyddio’r Gymraeg,” meddai. “A meddwl bod 90% o bobol ddim yn deall beth rydym ni’n ei ddweud – neu pan rydym yn rhoi pethau ar Instagram.
“Ond rydym yn cael getaway achos rydym yn reit dda yn gwneud beth rydym ni’n gwneud.”
Mae’n teimlo bod “lot o bwysau” ar gwmnïau i ddefnyddio’r Saesneg, ac mae’n ei weld yn rhyfedd eu bod yn denu cymaint o sylw.
“Dyna beth dw i’n gweld yn funny,” meddai. “Rydym ni’n cael mwy o sylw o fod yn siop Gymraeg ym Manceinion na llefydd Cymraeg yng Nghymru. Mae’n od.”