Mae’r Ymerawdwr Naruhito wedi dringo i ben yr orsedd o flodau crysanthemwm, gan gyhoeddi ei hun yn 126ain ymerawdwr Japan.

Yn y seremoni yn y palas yn Tokyo, mae hefyd wedi tyngu llw i wasanaethu cyfansoddiad y wlad, ac i aros yn driw ac yn agos i’w bobol.

Mae’r prif weinidog Shinzo Abe wedi’i longyfarch yn y ffordd draddodiadol trwy gynnig tair bonllef ‘banzi’ sydd, yn ôl traddodiad, yn addo ‘deng mil o flynyddoedd o fywyd hir’.

“Rydw i’n tyngu llw i ymddwyn yn gydnaws ac yn barchus o’r cyfansoddiad ac i wneud fy nyletswydd fel cynyrchiolydd y wladwriaeth ac fel symbol o undod pobol Japan,” meddai’r ymerawdwr newydd.

“Byddai bob amser yn gweddïo dros ei phobol a thros heddwch byd, a byddaf yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda’r bobol.”