Mae cwmni awyr Qantas wedi cynnal y daith ddi-stop gyntaf erioed rhwng Efrog Newydd a Sydney fel rhan o arbrawf.
Maen nhw’n ceisio mesur effaith teithiau hir ar flinder staff a theithwyr.
Fe gymerodd y daith 19 awr ac 16 munud – y daith hiraf erioed.
Roedd 49 o bobol ar yr awyren er mwyn sicrhau’r pwysau cywir ac i fesur y defnydd o danwydd.
Mae’r cwmni awyr yn cynnal Project Sunrise, sef cyfres o deithiau o Brisbane, Sydney a Melbourne i Efrog Newydd a Llundain.
Mae dwy daith arall ar y gorwel – un o Lundain i Sydney fis nesaf, ac o Efrog Newydd i Sydney ym mis Rhagfyr.