Mae’r gwrthdaro chwyrn rhwng yr heddlu a phrotestwyr yng Nghatalwnia wedi parhau am y trydedd noson yn olynol.
Daw’r anfodlonrwydd ar ôl i naw o gyn-arweinwyr y rhanbarth, gan gynnwys y cyn-Ddirprwy Arlywydd, Oriol Junqueras, gael eu carcharu am geisio sicrhau annibyniaeth yn 2017.
Mae degau ar filoedd o brotestwyr wedi wynebu swyddogion yr heddlu yn ninas Barcelona ac ardaloedd eraill yn ystod y dyddiau diwethaf.
Yn ôl adroddiadau, mae gwrthdystwyr wedi bod yn gosod rhwystrau ar y ffyrdd, llosgi ceir a biniau, yn ogystal â gweiddi “Bydd y strydoedd wastad yn eiddo i ni!”
Mae’r heddlu wedyn wedi bod yn ymateb trwy ddefnyddio bwledi rwber a phastynau ar brotestwyr.
Mae dros 250 o bobol, gan gynnwys swyddogion yr heddlu, wedi cael eu hanafu ers dechrau’r wythnos, yn ôl asiantaeth newyddion y Press Association.