Mae o leiaf ddau o swyddogion diogelwch wedi cael eu lladd wedi i fom car ffrwydro ger pencadlys yn nhalaith Laghman.
Mae’r awdurdodau hefyd yn dweud fod 26 o bobol gyffredin – yn cynnwys 20 o blant – wedi’u hanafu yn yr ymosodiad heddiw (bore Mercher, Hydref 16). Mae chwe milwr hefyd wedi’u hanafu yn y digwyddiad.
Roedd y plant y tu mewn i fosg yn astudio’r Koran, pan ffrwydrodd y ddyfais, a dyw hi ddim yn glir eto ai hunanfomiwr oedd yn gyfrifol ai peidio.
Hyd yn hyn, does yr un mudiad na grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.