Mae arlywydd Twrci wedi gwrthod galwad Donald Trump am gadoediad yn Syria.
Yn ôl Recep Tayyip Erdogan, mewn ymateb i Arlywydd yr Unol Daleithiau, dyw e “byth yn mynd i gyhoeddi cadoediad”.
Roedd yr arweinydd yn siarad â newyddiadurwyr o’r papur, Hurriyet, pan ddywedodd hefyd nad oes ganddo bryder ynghylch presenoldeb lluoedd Llywodraeth Syria yn ninas Manbij.
Ond o ran ymladdwyr Cwrdaidd, roedd yn bendant yn erbyn y syniad o nhw’n aros.
Fe gychwynnodd y cyrch milwrol gan Dwrci tua wythnos yn ôl er mwyn cael gwared ar luoedd Cwrdaidd o’r ardal ger y ffin.
“Fedrwn ni ddim cyhoeddi cadoediad nes ein bod ni wedi clirio’r rhanbarth,” meddai Recep Tayyip Erdogan.