Mae Twrci yn parhau a’i hymosodiadau ar luoedd Cwrdaidd yng ngogledd Syria am y trydydd diwrnod, gyda nifer o drigolion yn ffoi o’r dref mewn cerbydau neu ar droed.

Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod degau o filoedd o bobl wedi dechrau gadael ac maen nhw’n rhybuddio bod bron i hanner miliwn o bobl ger y ffin mewn perygl.

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau o’r awyr a’r tir dri diwrnod ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump dynnu milwyr yr Unol Daleithiau o’u safleoedd ger y ffin gan agor y drws i luoedd Twrci.

Mae’r penderfyniad wedi arwain at feirniadaeth lem ymhlith Democratiaid a Gweriniaethwyr yn y Gyngres ynghyd ag arweinwyr rhyngwladol.

Mae Donald Trump wedi annog Twrci i fod yn gymedrol a diogelu’r trigolion. Ond mae lluoedd Twrci wedi ymosodi ar 181 o dargedau hyd yn hyn.

Yn ôl Arlywydd Twrci Tayyip Erdogan cafodd 277 o “frawychwyr” eu lladd yn yr ymosodiadau, gan gyfeirio at ymladdwyr Cwrdaidd Syria. Nid yw’r ffigurau yma wedi’u cadarnhau.

Dywedodd gweinidog tramor Twrci Mevlut Cavusoglu bod lluoedd y wlad yn bwriadu symud 19 milltir i ogledd Syria ac y bydd eu hymgyrch yn parhau nes bod yr “holl frawychwyr wedi’u lladd.”