Mae lluoedd arfog Twrci yn barod i groesi’r ffin i mewn i Syria, wedi i arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, gyhoeddi fod lluoedd Amercia ar fin gadael yr ardal.
Yn ôl swyddog cyfathrebu arlywydd y wlad, mae Twrci yn bwriadu “niwtraleiddio” lluoedd Cwrdiaidd yng ngogledd-ddwyrain Syria.
“Fe fydd lluoedd arfog Twrci, ynghyd a Byddin Rydd Syria yn croesi mewn i Syria yn fuan,” meddai’r llefarydd.
Mae’r awdurdodau Cwrdiaidd yng ngogledd-ddwyrain Syria wedi galw ar drigolion yr ardal i ddal eu tir yn wyneb unrhyw ymosodiad gan Twrci.