Mae heddlu Bangladesh yn ymchwilio wedi i fyfyriwr prifysgol gael ei ladd.
Y gred ydi mai stiwdants sy’n driw i’r prif weinidog, Sheikh Hasina, sy’n gyfrifol, wedi i’r myfyriwr feirniadu bargen ddiweddar i rannu dŵr ag India.
Mae’r llofruddiaeth wedi ysgogi protestiadau ym Mhrifysgol Peirianneg a Thechnoleg y wlad yn ninas Dhaka ac mae 11 o bobol wedi cael eu harestio am eu rhan yn y cythrwfl.
Heddiw (dydd Mercher, Hydref 9) mae cannedd o fyfyrwyr ac athrawon yn cymryd rhan mewn gorymdaith dawel ar gampws y coleg, er mwyn mynnu cyfiawnder.