Mae cannoedd o brotestwyr yn gwisgo masgiau ac yn siantio o blaid chwyldro, wedi crynhoi yn Uchel Lys Hong Kong ar gyfer gwrandawiad apêl gwrthdystiwr sydd wedi’i ddedfrydu i chwe blynedd yng ngharchar am ei ran yn y protestiadau.

Mae Edward Leung yn un o genhedlaeth o bobol ifanc a gafodd eu hysbrydoli i ymwneud â gwleidyddiaeth wedi protestiadauu di-drais 2014 yn erbyn penderfyniad llywodraeth Tsieina i rwystro etholiadau.

Mae Edward Leung wedi bod yn ymgyrchu tros annibyniaeth i Hong Kong.

Mae ei gefnogwyr sydd wedi ymgasglu o flaen y llys, yn gobeithio y bydd yn cael ei ryddhau heddiw (dydd Mercher, Hydref 9).

Fe gafodd Edward Leung ei ddedfrydu ym mis Mehefin 2018  am ei ran mewn protest gynhaliwyd ym mis Chwefror 2016.