Dywed arweinydd Hong Kong Carrie Lam y gallai byddin Tsiena ymyrryd yn Hong Kong os yw’r protestiadau yno’n gwaethygu.
Er hynny mae hi’n dal yn obeithiol y gall llywodraeth Hong Kong adfer y sefyllfa.
Mae Carrie Lam wedi annog beirniaid tramor i dderbyn fod y defnydd cynyddol o drais gan brotestwyr yn profi “nad symudiad heddychlon dros ddemocratiaeth” ydyw bellach.
Dywed Carrie Lam fod ymofyn am ymyrraeth Tsieineaidd yn rhywbeth y gallai wneud yn ôl cyfansoddiad Hong Kong, ond wnaeth hi ddim datgelu o dan ba amgylchiadau y byddai yn gwneud hynny.
“Dwi dal yn credu y dylem ddatrys hyn ein hunain,” meddai.
“Dyma yw safbwynt llywodraeth Hong Kong, ond os yw’r sefyllfa yn gwaethygu ni allwn ddiystyru unrhyw opsiwn os ydym am i Hong Kong allu cael cyfle arall.”