Mae gwyddonwyr wedi darganfod 20 lleuad newydd sy’n troi o gwmpas y blaned Sadwrn.
Mae hyn yn golygu mai Sadwrn – yn hytrach na’r blaned Iau – sydd gan y nifer mwyaf o leuadau gyda 82 ohonyn nhw, tra bod gan Iau 79 o loerennau.
“Roedd hi’n hwyliog darganfod mai Sadwrn yw gwir frenin y lleuad,” meddai’r seryddwr Scott Sheppard.
Defnyddiodd Scott Shepard a’i dîm delesgop yn Hawaii dros yr haf i ddarganfod yr ugain lleuad newydd.
Mae’n bosib fod oddeutu 100 o leuadau bychain sydd heb eu darganfod eto, yn cylchdroi Sadwrn.