Mae Bernie Sanders, un o’r rhai sydd yn y ras i ennill ymgeisyddiaeth y Democratiaid i fod yn arlywydd nesa’r Unol Daleithiau, wedi cael trawiad ar y galon.
Cafodd y gwleidydd 78 oed boen yn ei frest mewn digwyddiad gwleidyddol ddydd Mawrth (Hydref 1), ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty lle cafodd ei ddiagnosis.
Cafodd ei drosglwyddo i ysbyty arall wedyn, lle cafodd e driniaeth stent ar y galon, yn ôl meddygon yn Las Vegas.
Dydy hi ddim yn glir a oes yna niwed parhaol i’w galon.
Mae disgwyl iddo fynd i Vermont i barhau i ymgyrchu yn y ras arlywyddol.