Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi datgelu fod Rwsia yn helpu Tsieina i adeiladu system i dracio taflegrau balistig.

Ers y Rhyfel Oer, dim ond America a Rwsia sydd wedi cael systemau o’r fath.

Mae’r system yn hanfodol ar gyfer darganfod ac atal taflegrau balistig yn gynnar.

“Mae hwn yn beth difrifol iawn fydd yn gwella gallu Tsieina i’w hamddiffyn ei hun,” meddai Vladimir Putin.

Mae cyhoeddiad Vladimir Putin yn arwydd o lefel uwch o gydweithio rhwng Rwsia a Tsieina gyda’r ddwy wlad wedi datblygu perthynas wleidyddol a milwrol agos yn y blynyddoedd diwethaf.