Mae Donald Trum wedi gofyn i Tsieina i gynnal ymchwiliad i gyn-ddirpwy arlywydd America, Joe Biden.

“Dylai Tsieina ddechrau ymchwilio i mewn i Joe Biden,” meddai Donald Trump wrth newyddiadurwyr wedi ymgasglu y tu allan i’r Tŷ Gwyn.

Er nad yw Donald Trum wedi gwnrud cais swyddohol i’r arlywydd Xi Jinping, dywed fod hynny “yn bendant yn rhywbeth y gallwn ni ddechrau meddwl amdano”.

Mae cyfreithiwr personol Donald Trump, Rudy Giuliani hefyd wedi ceisio codi amheuon am weithredoedd busnes mab Joe Biden, Hunter Biden yn Tsieina.

Ond does dim tystiolaeth fod Joe Biden wedi gwneud elw o weithredoedd busnes ei fab.