Mae llywodraeth Sbaen yn bwriadu cyflwyno cynllun gwerth 300 miliwn ewro i ddelio gydag effaith cwymp y cwmni gwyliau, Thomas Cook.
Dywed gweinidog twristiaeth dros dro y wlad y bydd y cynllun yn cynnwys llinell gredyd gwerth 200 miliwn ewro i fusnesau sydd wedi ei effeithio, gan greu swyddi newydd yr un pryd.
Mae disgwyl i gabinet Sbaen basio’r cynllun ar Hydref 11.
Yn ôl llywodraeth Sbaeth mae 3,400 o swyddi a oedd yn dibynu ar gytundebau gyda Thomas Cook yn y fantol.