Mae diffyg eglurder a manylder yng nghynlluniau Brexit Boris Johnson, yn ôl Gweinidog Materion Ewropeaidd Iwerddon.

Dydy’r cynlluniau ddim yn “cymhathu” ag ymrwymiadau’r Deyrnas Unedig, meddai Helen McEntee wrth gyfeirio at araith prif weinidog Prydain yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.

Daeth ei sylwadau cyn i Boris Johnson ymrwymo i gynllun i ddileu’r ‘backstop’, wrth iddi alw am ohirio’r broses pe bai Brexit heb gytundeb yn debygol o ddigwydd.

“Fe wyliais i araith y prif weinidog y prynhawn yma,” meddai, cyn ychwanegu nad oedd “eglurder mawr na manylion o unrhyw fath yn ei araith”.

“Dw i’n meddwl fod angen i ni aros i’r cynnig swyddogol gael ei wneud ac i unrhyw ddogfennau cyfreithiol gael eu cyflwyno i’r Comisiwn a than hynny, dw i’n credu nad yw’r rhan fwyaf o’r hyn rydyn ni’n ei glywed yn cymhathu â’r ymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu gan y Deyrnas Unedig hwythau.

“Heb unrhyw gynnig na manylion clir, dyfalu yn unig yw e a dw i’n meddwl fod angen i ni fod yn barod ac yn fodlon gwrando ar yr hyn y gallen nhw ei gynnig.”

Goblygiadau i Iwerddon

Mae Helen McEntee yn dweud y byddai ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn golygu “newid eang” yn y berthynas rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, gan gynnwys peryglu Cytundeb Gwener y Groglith.

Fe ddaeth i’r amlwg eisoes fod Llywodraeth Prydain yn cynnig nifer o dollau ar hyd y ffin yn lle’r ‘backstop’.

Ond fe gafodd ei wrthod gan lywodraeth Iwerddon, gyda Boris Johnson wedyn yn ymbellhau oddi wrth y cynllun.

Mae Boris Johnson yn cael ei gyhuddo gan blaid Fine Gael o redeg y cloc i lawr, ac mae Sinn Fein hefyd wedi mynegi pryder am ddiffyg datblygiadau.