Bydd Brexit “yn cryfhau y Deyrnas Unedig” yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns.

Dywed yn ei araith i gynhadledd y blaid Geidwadol y bydd Brexit yn galluogi Cymru i ddenu rhagor o fuddsoddiadau yn ogystal â chystadlu mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Aeth ymalen i ddiystyru’r sawl sy’n galw am annibynaieth i Gyrmu gan honni na fyddai Cymru yn gallu bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd hyd yn oed pe bai’n wlad annibynol.

Dywed: “Y realiti yw, ni fyddai Cymru yn cael mynediad i’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol.”

Daw hyn wrth i Alun Cairns gyhoeddi buddsoddiad o 55m i Geredigion a Phowys ar draws y 15 mlynedd nesaf. Swm mae Llywodraeth Cymru wedi ei alw yn “bitw.”

Gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi “cyffroi” Alun Cairns

Mae Alun Cairns wedi ei “gyffroi” â’r posibilrwydd o’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed: “Fe ydyn ni wedi ein cyffroi am y cyfleoedd rhyngwladol sydd yn bodoli. Dwi’n meddwl y bydd y gwledydd ar draws y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd yn agosach, ac yn gwerthfawrogi y gwerth sydd yna wrth ddod at ei gilydd.”