Mae pryderon y gallai corwynt Lorenzo achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru am weddill yr wythnos.

Mae disgwyl i’r gwyntoedd gyrraedd rhwng 60 ac 80 milltir yr awr, ac mae perygl y gallai rhannau o’r de golli trydan am gyfnodau dros y dyddiau nesaf.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, cwympodd 27% yn fwy o law nag arfer fis diwethaf drwy wledydd Prydain.

Fe allai’r gwyntoedd cryfaf daro Cymru fore dydd Gwener (Hydref 4), gyda rhybudd melyn mewn grym rhwng 4 o’r gloch y bore a 4 o’r gloch y prynhawn.

Fe allai achosi oedi i deithwyr ar y ffyrdd, rheilffyrdd, awyrennau a fferi, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan y bydd hyd at 20mm o law yn cwympo cyn i’r storm gilio nos Wener.