Mae miloedd o brotestwyr wedi ail-ymgynnull yn Hong Kong a hynny o fewn dyddiau i Ddiwrnod Cenedlaethol Tsieina.

Roedd nifer o’r protestwyr yn gwisgo du a chyda ymbyrelau a phosteri yn galw am ddemocratiaeth. Fe ganodd nhw ganeuon a siantio “Stand With Hong Kong” a “Fight For Freedom” wrth iddyn nhw anelu at swyddfeydd y llywodraeth.

Bu’n rhaid i nifer ffoi wrth i’r heddlu gwrth-derfysg saethu nifer fawr o nwy dagrau at y dorf.

Llosgi arwyddion

Ond fe ddychwelodd y protestwyr gyda rhai ohonyn nhw yn darnio, rhwygo a llosgi arwyddion yn llongyfarch Plaid Gomiwnyddol Tsieina fydd ddydd Mawrth yn dathlu ei 70fed blwyddyn mewn grym.

Mae protestiadau eraill wedi eu trefnu ledled y byd i gefnogi’r un yn Hong Kong gan gynnwys Sydney, Awstralia ble daeth rhagor na mil o bobol i gynnal rali.

Ddoe, ddydd Sadwrn, fe saethodd yr heddlu nwy dagrau a defnyddio canonau dŵr yn erbyn y protestwyr.

Mae rhai Tsieiniaid hefyd wedi cynnal gwrth-brotestiadau o blaid Tsieina. Mae protestwyr sy o blaid democratiaeth yn bwriadu cynnal gorymdaith ddydd Mawrth er gwaethaf gwaharddiad gan yr heddlu.

Mae’r protestwyr yn gofyn am etholiadau i gael eu cynnal i ddewis arweinwyr a hefyd atebolrwydd gyda’r heddlu.

Mae llawer o bobol yn wrthwynebus o’r bil estraddodi fyddai yn golygu anfon pobol dan amheuaeth o droseddu i Tsieina am dreial – yn groes i’r polisi o gael “un wlad, dwy system” pan ddychwelwyd Hong Kong i ofal Tsieina ym 1997.