Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi cadarnhau na fydd hi’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Yn 82 oed, hi yw’r aelod benywaidd hynaf yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae hi wedi cynrychioli’r etholaeth am 35 o flynyddoedd.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn fraint i gynrychioli pobl Cwm Cynon am gyfnod mor hir.
“Byddaf yn parhau i frwydro dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf – pryd bynnag fydd hwnnw.”
Fe wnaeth ei chyhoeddiad mewn cyfarfod yn yr etholaeth nos Wener. Fe’i ganwyd ym Mhentre Halkyn, Sir y Fflint. Mae hi yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi dy hefyd yn Aberdyfi, Gwynedd.
Yn gyn-newyddiadurwr, roedd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru cyn cael ei hethol fel AS Cwm Cynon yn 1984 mewn is-etholiad.
Protest tanddaearol
Cafodd ei phenodi i sawl swydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, llefarydd datblygu rhyngwladol a chadeirydd pwyllgor ASau Llafur yn San Steffan.
Yn 1994, fe gynhaliodd brotest danddaearol yng Nglofa’r Tŵr, yn Hirwaun, mewn gwrthwynebiad i benderfyniad British Coal i gau’r safle.
Cafodd y glöwyr hawl i ailagor y lofa eu hunain y flwyddyn ganlynol, gan fuddsoddi eu taliadau diswyddiad, ac fe lwyddo nhw i gadw’r safle i fynd tan 2008.
Fe’i dewiswyd gan Tony Blair i fod yn gennad arbennig hawliau dynol i Irac, gan ennyn canmoliaeth a chefnogaeth arbennig gan y Cwrdiaid.
Wedi marwolaeth ei gŵr, Owen Roberts yn 2012 fe ymgyrchodd i wella safonau gofal o fewn y GIG.
Yn 2014, cyhoeddodd na fyddai’n sefyll fel AS yn etholiad cyffredinol 2015, ond fe newidiodd ei meddwl yn sgil ffrae dros lunio rhestrau o ymgeiswyr benywaidd yn unig.
Cafodd ei hailethol yn yr etholiad hwnnw ac fe gynyddodd ei mwyafrif yn etholiad cyffredinol 2017.
Mewn cyfweliad â’r newyddiadurwr Guto Harri ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C fis Ebrill diwethaf, dywedodd ei bod hi’n credu mai “camgymeriad” oedd datganoli, gan awgrymu na fyddai wedi pleidleisio drosto pe bai’n gwybod y pryd hynny yr hyn mae’n ei wybod yn awr.
Yn y cyfweliad hefyd, galwodd am ail refferendwm Brexit gan gredu y byddai pobol ei hetholaeth wedi pleidleisio’n wahanol yn 2016 gyda’r wybodaeth sydd ganddyn nhw erbyn hyn.