Mae cyrchoedd awyr gan gynghreiriaid Sawdi Arabia, wedi lladd o leiaf 11 o bobol ddiniwed yn Yemen, a’r rheiny’n cynnwys plant.

Fe darodd y bomiau adeilad lle’r oedd pobol yn byw yn ardal Qataba yn rhanbarth Dhale, ac fe gafodd pump o bobol hefyd eu hanafu.

Mae sianel deledu lloern al-Masirah yn adrodd bod cynifer ag 16 o bobol wedi cael eu lladd, yn cynnwys saith o blant a phedair dynes.

Mae’r gwrthryfelwyr Houthi yn honni fod cyrch arall dan arweiniad y cynghreiriaid wedi lladd beth bynnag saith o bobol yn cynnwys plant yn nhalaith Amran yng ngogledd-orllewin Yemen.

Mae Sawdi Arabia a’i chynghreiriaid yn ymladd gwrthryfelwyr Houthi ers 2015, ac mae’r rhyfel hwnnw wedi lladd degau o filoedd o bobol.