Gallai Rwsia gael eu gwahardd o Gemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf yn sgil honiadau eu bod nhw wedi ymyrryd â data yn ymwneud â’r defnydd anghyfreithlon o gyffuriau.
Yn ôl y Sunday Telegraph, mae WADA (asiantaeth gwrth-gyffuriau’r byd) yn credu bod data a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw o labordy wedi cael ei addasu dros gyfnod o 18 mis er mwyn celu’r defnydd o gyffuriau gan athletwyr o Rwsia.
Fe fydd cyfarfod o fwrdd rheoli WADA yn Tokyo ddydd Llun (Medi 23), lle mae disgwyl i’r mater gael ei drafod ac fe allai Rwsia wynebu gwaharddiad yn y pen draw.
Dydy WADA ddim wedi gwneud sylw.
Fe fydd athletwyr Rwsia yn cystadlu fel unigolion yn ystod Pencampwriaeth y Byd yn Doha yn sgil gwaharddiad blaenorol yn ymwneud â chyffuriau.